hafan beibl cymraeg y llais adnoddau newyddion amdanom ni  

Y Llais – Y Testament Newydd ar CD a chasét sain
 
 
Gyda'r diddordeb mawr mewn llyfrau y dyddiau hyn, mae'n briodol iawn bod Testament Newydd Diwygiedig y Beibl Cymraeg Newydd wedi cael ei recordio ar gryno ddisg ac ar dâp sain. Felly, mae'n bosib profi grym stori'r Beibl yn eich iaith eich hun!

Mae'r actorion teledu Richard Elfyn a Rhys Parry Jones yn ymuno â lleisiau cyfarwydd eraill gan gynnwys Lisabeth Miles, i ddod â stori oesol bywyd Crist yn fyw, gan gynnwys ei her i awdurdod a'i ysbrydoliaeth i bobl gyffredin. Ystyriwch lwyddiannau a ffaeleddau ei ddilynwyr o bob haen o gymdeithas as o bob hil, a gwrandewch ar lythyrau cignoeth y Testament Newydd. Dyma stori sydd wedi siapio cymdeithasau ac unigolion ar hyd yr oesoedd ac sydd yr un mor bethnasol i’n bywydau ni heddiw.
Y Freuddwyd
Bu Cymdeithas y Beibl yn awyddus i gynhyrchu Testament Newydd Cymraeg ar dâp ers blynyddoedd, felly cyn gynted ag yr adolygwyd y Beibl Cymraeg Newydd yn 2004, dechreuwyd codi arian ar gyfer y cynllun. Cafwyd hanner y swm angenrheidiol gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a daeth y gweddill gan unigolion ac eglwysi yng Nghymru a Lloegr. O'r diwedd, daeth y freuddwyd yn wir. Mae Y Llais yn ddehongliad gair-am-air grymus o'r Testament Newydd Diwygiedig Cymraeg.

Uniaethwch â'r stori
Mae cyfoeth yr iaith Gymraeg yn dod â llenyddiaeth, grym a drama'r Testament Newydd yn fyw, a bydd Y Llais yn apelio at lawer o bobl. Os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu'n dysgu'r iaith, neu'n cael trafferth i ddarllen print, bydd Y Llais yn fodd i chi ddod yn gyfarwydd â'r Beibl mewn modd cyfoes a chyffrous.

Bydd Y Llais ar gael fel rhan o gynllun llafar Beiblaidd Ffydd drwy glywed (Faith Comes By Hearing) a gynhyrchwyd ar gyfer eglwysi Cymraeg eu hiaith.

Tapiau sain (18 tâp sain): £39.95
Cryno Ddisgiau (yn cynnwys 18 cryno ddisg): £49.95.

Ewch i www.bibleresources.org.uk i archebu ar-lein neu ffoniwch IVP ar 08707 747676.

Mwy o wybodaeth

Gwrandewch ar samplau sain
Ffydd drwy glywed
Taflen Y Llais (PDF 3.5MB)

 
     
  View the English language version of this page  
  Bible Society, Stonehill Green, Westlea, Swindon SN5 7DG
T: 01793 418100 F: 01793 418118
www.biblesociety.org.uk Charity Registration No. 232759