hafan beibl cymraeg y llais adnoddau newyddion amdanom ni  

Mae Ffydd Drwy Glywed yn cyflwyno gwledd 40 diwrnod o’r Beibl i chi
 
 

Yn wynebu eich eglwys mae un o’r profiadau pwysicaf erioed, a all newid eu bywyd. Gwrando ar y cyfan o’r Testament Newydd – yn y Gymraeg – dros gyfnod o 40 diwrnod.

Mae’n brofiad sy’n adnewyddu ffydd a dealltwriaeth eglwysi o amgylch y byd trwy gyfrwng rhaglen Ffydd Drwy Glywed. Ac mae nawr ar gael i eglwysi Cymru gyda chyhoeddiad sain o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Mae syniad Ffydd Drwy Glywed yn syml iawn

Dyma sy’n digwydd
  • Mae aelodau eich eglwys – ifanc a hen – yn ymrwymo i wrando ar y Testament Newydd cyfan, fel rheol am 40 diwrnod.
  • Maent yn dilyn canllaw gwrando dyddiol, gan wrando pryd bynnag a lle bynnag y mae fwyaf hwylus.
Ystyriwch beth fydd hyn yn ei olygu wrth i bobl ddeall "darlun mawr" gwirionedd Duw a’r neges sy’n newid bywydau. Ac wrth i’r Ysbryd Glân gysylltu’r hyn a glywant gyda’u bywydau.

Meddyliwch am y ffordd y byddant yn fwy tebygol o siarad am yr Ysgrythur gyda’i gilydd. A sut bydd hyn yn cyfoethogi bywyd eich eglwys. Ystyriwch hefyd beth fydd yn ei olygu i’ch gweinidogaeth chi. Bydd eich pregethau yng nghyd-destun y ffaith bod eich gwrandawyr wedi clywed y darn hwnnw o’r Beibl yn ystod yr wythnos a aeth heibio.

Beth am y gost?

Yr unig gost i’ch eglwys yw cost y pecyn sain a’r postiad. Serch hynny, ein gobaith yw y byddwch yn trefnu offrwm i ddiolch ar ran rhaglen Ffydd Drwy Glywed yn ystod eich gwledd 40 diwrnod.

I gael mwy o wybodaeth ac i weld sut y gall eich eglwys gyfrannu, ebostiwch contactus@biblesociety.org.uk

Lawrlwythiadau

Cymorth i arweinwyr (PDF 43KB) neu Cymorth i arweinwyr (WORD 361KB)
Pregeth (PDF 131KB) neu Pregeth (WORD 410KB)
Gwrandewch ar samplau sain
Taflen Ffydd drwy Glywed (PDF 3MB)

Beth a ddywed eraill

Mae’r Parch. D Marc Owen, Ysgrifennydd Bywyd Eglwys Undeb Bedyddwyr Cymru, wedi cael profiad o’r rhaglen Saesneg, pan roedd yn Uwch Weinidog yn Eglwys y Bedyddwyr Milton, Weston-super-Mare. Meddai, "Daeth â bywyd i’r Beibl a rhoi cyfle i bobl ail-ganfod cariad tuag at y Beibl. Roedd yn help iddynt afael yn y Beibl unwaith eto fel llyfr a thrawsnewid eu taith ddyddiol gyda’r Iesu. Roedd yn wych."

Y Gwir Barch. Edwin Regan, Esgob Wrecsam: "Rwy’n gobeithio y bydd Cristnogion Cymraeg yn manteisio ar hwn, ar gyfer efengylu a dyfnhau eu ffydd eu hunain."

Y Parch. Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru: "Bydd cael adnoddau o’r fath yn cyflwyno dulliau cyffrous newydd o rannu’r ffydd Gristnogol. Bydd yn helpu’r rhai sy’n credu a’r rhai sy’n ceisio yn eu hastudiaeth o’r Gair yn eu cartrefi, a chredaf y bydd yr hen a’r ifanc yn manteisio. Diolch."

Diolch i Sefydliad James Pantyfedwen, y CWM, ynghyd ag unigolion, grwpiau ac eglwysi eraill a ddarparodd y cyllid ar gyfer y rhaglen arbennig hon.

 
     
  View the English language version of this page  
  Bible Society, PO Box 205, Bala LL23 9AB
T: 01793 418100 F: 01793 418118
www.biblesociety.org.uk Charity Registration No. 232759