hafan beibl cymraeg y llais adnoddau newyddion amdanom ni  

Y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig
 
 

Pris: £15.99

Nodweddion:

  • Dyma'r unig fersiwn Cymraeg newydd o'r Beibl ers 1988
  • Mae ynddi ddiwygiadau helaeth
  • Mae'r iaith yn gynhwysol trwyddi draw
  • Mae cysondeb wrth gyfieithu enwau a thermau technegol
Cymharwch yr Argraffiad Diwygiedig gyda chyfieithiad Esgob William Morgan

Ewch i www.bibleresources.org.uk i archebu ar-lein neu ffoniwch IVP ar 08707 747676.

Pwt o hanes

Yn 1558, cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg am y tro cyntaf gan Esgob William Morgan, a dwys bu'r effaith am ganrifoedd lawer. Dyma oedd yr unig gyfieithiad ar gael tan yr ugeinfed ganrif, ac fe'i defnyddiwyd mewn eglwysi, capeli, ysgolion ac ar aelwydydd di-rif.

Yn 1988, cyhoeddwyd y Beibl Cymraeg Newydd gan Cymdeithas y Beibl, cyfieithiad newydd, safonol, a ddefnyddiwyd yn helaeth yn y genedl. Wrth gadw urddas a pharchusrwydd argraffiad Esgob Morgan, galluogwyd darllenwyr newydd i werthfawrogi'r Beibl trwy gyfrwng Cymraeg modern.

Yn ganolog i'r Beibl Cymraeg newydd – Argraffiad Diwygiedig, yw'r brwdfrydedd i wneud y Beibl yn ddealladwy i genedlaethau newydd o siaradwyr Cymraeg. Ac yn ystod cyfnod o hyder newydd yn y genedl, gobeithir y bydd yr argraffiad newydd hon yn rhoi grym i genhedlaeth newydd i ddeall ewyllys Duw ar gyfer eu bywydau.

Mwy o wybodaeth

Lefel y Gymraeg a ddefnyddiwyd yn y BCN Diwygiedig.
Iaith gynhwysol?
Sut cynhyrchwyd y BCN Diwygiedig
Beth am yr Apocrypha?
Cyfieithwyr y BCN (2004)
Oes unrhyw gynlluniau arall ar y gweill ar gyfer adnoddau Cymraeg?
Pwy yw Cyngor Llyfrau Cymru?
Pwy yw Cymdeithas Y Beibl?

Lefel y Gymraeg a ddefnyddiwyd yn y BCN Diwygiedig

Pam nad ydych wedi defnyddio iaith mwy llafar yn y Beibl Cymraeg Newydd-Argraffiad Diwygiedig?

Yn gyffredinol, yr un yw’r lefel iaith ag ym Meibl 1988, gan na farnwyd mai ein tasg oedd cynhyrchu Beibl yn yr iaith lafar. Er Hynny, bu ystwytho yma ac acw, ac osgoi ymadroddion hynafol eu blas. Gwelir i’r collnod ddiflannu o ffurfiau megis Rwyf a Rwyt, ond osgowyd y cam pellach, a fyddai’n golygu dewis rhwng ‘Rydw i’ a ‘Rwy i’. Weithiau aed am air mwy cyfarwydd ac arferol; yn lle amryfusedd ceir camgymeriad (e.e Gen. 43.12), ac yn lle cythruddwyd ef dewiswyd fe wylltiodd (Barn 9.30). Erbyn hyn magodd y gair anwiredd ystyr mwy cyfyngedig na’r hyn a olyga yn y Beibl, ac felly gan amlaf fe roddir drygioni yn ei le. Fe newidiwyd hunodd gyda’i dadau (e.e 2 Sam. 19.39) i bu farw, ac aeth derbyn wyneb yn dangos ffafriaeth (e.e Deut. 16.19).

Y Parchedig Athro Gwilym H Jones, Cadeirydd y panel cyfieithu

Yn ol i'r dechrau

Iaith gynhwysol?

Pam y’ch wedi defynyddio iaith gynhwysol yn yr argraffiad newydd?

Y mae’r Beiblau a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn defnyddio iaith gynhwysol, sef iaith sy’n digon agored i gynnwys benywod yn ogystal â gwrywod. Heb drafod y pwnc yn fanwl, digon yw nodi mae’r polisi wrth baratoi Beibl 2004 oedd mabwysiadu’r egqydor hon lle mae hynny’n rhesymol ac yn gorffwys yn esmwyth, ond osgoi mynd dros ben llestri nes ymylu ar yr afresymol. Mewn mannau roedd newid yn hawdd, megis rhoi hynafiaid am tadau, ac eithrio lle cyfeirir yn benodol at Abraham, Isaac a Jacob (e.e Ex. 3.6), a rhoi rhagflaenwyr yn lle tadau (e.e 1 Bren.15:12, 24). Yr un mor hawdd oedd rhoi rhywun yn lle dyn yn y cyfreithiau, a throi Gwyn ei fyd y dyn yn Gwyn ei fyd y sawl (Salm. 1.1).
Ambell dro cadwydd y gair dyn, a hynny am ei fod yn air generig sy’n cynnwys y ddau ryw. Ar un adeg yr oeddem wedi newid yr ymadrodd dyn ac anifail i ‘pobl ac anifeiliaid’, on gan fod dyn fel anifail yn cynnwys y ddau ryw, penderfynwyd cadw’r ymaadrodd heb ei newid.

Oes unrhyw gynlluniau arall ar y gweill ar gyfer adnoddau Cymraeg?

Gobeithia Cymdeithas y Beibl gynhyrchu nifer o adnoddau Cymraeg newydd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Edrychwch am am fwy o wybodaeth am yr

  • Argraffiad dwyieithog o’r Testament Newydd
  • eibl Canllaw ynghyd â nodiadau esboniadol
  • Fersiwn sain o’r Testament Newydd
  • Argraffiad arbennig ar gyfer ysgolion

Y Parchedig Athro Gwilym H Jones, Cadeirydd y panel cyfieithu

Yn ol i'r dechrau

Sut cynhyrchwyd y BCN Diwygiedig

Cynhyrchwyd y Beibl newydd gan dîm o gyfieithwyr, ieithyddion a diwinyddion. Nod eu gwaith oedd sicrhau cywirdeb y cyfieithiad newydd ac ei fod hefyd yn ddarllenadwy. Yn ogystal â'r cyfieithwyr, bu nifer o bobl yn darllen y proflenni er mwyn cywiro unrhyw gamgymeriadau.

Rydym yn ddiolchgar i'n ffrindiau yng Nghyngor Llyfrau Cymru am eu cymorth cynhyrchiol, ac am ddylunio clawr y Beibl newydd. Ond yn ogystal â'r arbenigrwydd golygyddol, rhaid dweud gair am y gwaith gosodi. Mae cyhoeddi Beibl yn annhebyg i gynhyrchu cyhoeddiad arall, gan ei fod yn cynnwys miloedd o dudalennau a phenodau, niferoedd o lyfrau a channoedd o droednodion. Gofynnwyd felly i'r gosodwyr bwrw at eu gwaith gyda manylder ac amynedd.

Unwaith y cwblhawyd y gwaith golygyddol a gosodi, danfonwyd y ffeiliau i'r argraffwyr ar gyfer cyhoeddiad ym mis Mawrth 2004.

Ers 1988, mae rhai o ysgolheigion a chyfieithwyr mwyaf blaenllaw Cymru wedi bwrw ati i baratoi y Beibl Cymraeg Newydd – Argraffiad Diwygiedig.

Yn ol i'r dechrau

Beth am yr Apocrypha?

Cyfieithwyd yr Apocrypha wedi cwblhau cyfieithu gweddill y Beibl. Siomedig fu gwerthiant y BCN blaenorol a oedd yn cynnwys yr Apocrypha. Felly bydd Cymdeithas y Beibl ond yn cyhoeddi fersiwn o’r BCN a’r Apocrypha os gwelir fod galw amdano ac fe fydd angen ymrwymiad sylweddol o’r eglwysi i wneud hyn. Hyd yma, ychydig iawn o alw a fu am yr Apocrypha, a dim ymrwymiad gan eglwysi i’w ddefnyddio.

Bydd yr Apocrypha ar gael gan Gymdeithas y Beibl yng nghyflawniad yr amser fel llawrlwythiad e-sword trwy gysylltu â www.e-sword.net.

Yn ol i'r dechrau

Cyfieithwyr y BCN (2004)

Cyfarwyddwr a Chadeirydd Panel yr Hen Destament :
Gwilym H.Jones   Addysgwyd ym Mhrifysgolion Cymru Bangor a Rhydychen; PhD a DD o Brifysgol Cymru. Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru a oedd cyn ei ymddeoliad yn Athro   a Phennaeth Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae esboniadau ar 1a 2 Samuel, 1a 2 Brenhinoedd, Y Salmau ac Eseia.

Aelodau Panel yr Hen Destament :
Gwynn ap Gwilym   Addysgwyd ym Mhrifysgolion Cymru Bangor a   Rhydychen; y mae ganddo raddau Meistr mewn Cymraeg, Diwinyddiaeth a Hebraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru a fu'n dysgu'n rhan-amser yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth. Prifardd a gyhoeddodd lawer ar lenyddiaeth Gymraeg, a hefyd esboniad ar Deuteronomium.

Eryl Wynn Davies   Addysgwyd ym Mhrifysgolion Cymru Bangor a Chaergrawnt, lle'r enillodd radd PhD. Y mae'n Ddarllenydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor, ac yn awdur nifer o weithiau, gan gynnwys llawlyfr ar yr Epistolau Cyffredinol ac esboniadau ar Hosea a Micha a'r Llythyr at yr Hebreaid.

Gareth Lloyd Jones   Addysgwyd ym Mhrifysgolion Cymru Bangor, Caergrawnt a Iâl, ac y mae yn PhD o Brifysgol Llundain a DD(ar anrhydedd) o Austin, Texas. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru a Changhellor cadeirlan Bangor. Cyn ei ymddeoliad Athro a Phennaeth Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae llawlyfr ar Lên Doethineb ac esboniad ar lyfr Jeremeia.

Gareth H.Watts Addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, lle y graddiodd mewn Diwinyddiaeth ac yna ennill gradd Meistr. Gweinidog gyda'r Annibynwyr, a chyn ei ymddeoliad athro yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg, Aberystwyth. Awdur esboniad ar Amos a Joel.

Cadeirydd Panel y Tetament Newydd:
David P.Davies   Cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru ac Athro mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol a chyn-Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Llanbedr-Pont-Steffan. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae llawlyfr ar yr Efengylau a'r Actau ac esboniad ar Efengyl Marc.

Aelodau Panel y Testament Newydd :
Ceri Davies   Cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Cymru, Caerdydd a Rhydychen, gan raddio'n MPhil yn Rhydychen a DLitt o Brifysgol Cymru. Y mae'n Athro yn Adran y Clasuron a Hen Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Cyhoeddodd weithiau ar lenorion Lladin y Dadeni Dysg, a chyfrol yn ddiweddar ae John Davies, Mallwyd.

Owen E.Evans Graddiodd o Brifysgolion Llundain a Leeds, a dyfarnwyd iddo DD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Gweinidog gyda'r Eglwys Fethodistaidd, a chyn ei ymddeoliad Uwch-ddarlithydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor. Cyn-gyfarwyddwr y BCN   a golygydd y   Mynegair . Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae llawlyfr ar y Llythyrau Paulaidd.

D.Hugh Matthews   Graddiodd yn y Celfyddydau ac mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ac enillodd radd Meistr ym Mhrifysgol Llundain. Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a chyn ei ymddeoliad Prifathro Coleg y Bedyddwyr Caerdydd. Y mae'n awdur esboniadau ar Lyfr y Datguddiad a'r   Llythyr at yr Hebreaid.

R.Telfryn Pritchard   Addysgwyd yn Adran y Clasuron Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac yno yr enillodd radd Meistr a PhD. Cyn ei ymddeoliad yr oedd yn Ddarllenydd yn yr Adran honno. Mae ei   brif gyhoeddiadau ar hanes Rhufain a Lladin y Canol oesoedd, gan gynnwys llawlyfr ar y Rhufeiniaid gynt.

Catrin Haf Williams   Graddiodd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Cymru Bangor, ac wedyn yn PhD o Brifysgol Caergrawnt. Uwch-ddarlithydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor. Ymhlith ei chyhoeddiadau y mae esboniad ar Lyfr y Datguddiad.

John Tudno Williams   Addysgwyd ym Mhrifysgol Rhydychen a'r Coleg Diwinyddol Aberystwyth, lle'r enillodd radd PhD. Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chyn ei ymddeoliad Prifathro'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Cyhoeddodd esboniadau ar lyfr Job, 1 Corinthiaid a'r llythyrau at y Galatiaid a'r Philipiaid.

Ymgynghorydd Llenyddol :
Gwyn Thomas Bu'n astudio ym Mhrifysgolion Cymru Bangor a Rhydychen; enillodd raddau Meistr o'r naill a DPhil o'r llall. Cyn ei ymddeoliad yr oedd yn Athro a Phennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddodd yn helaeth ar lenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â nifer o gyfrolau o farddoniaeth.

Cymharwch yr Argraffiad Diwygiedig gyda chyfieithiad Esgob William Morgan

Yn ol i'r dechrau

Pwy yw Cyngor Llyfrau Cymru?

Y mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Y mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ol i'r dechrau

 
     
  View the English language version of this page  
  Bible Society, PO Box 205, Bala LL23 9AB
T: 01793 418100 F: 01793 418118
www.biblesociety.org.uk Charity Registration No. 232759