![]() |
||||||
Amdanom ni |
||||||
|
Ers ei sefydlu ym 1804, bu Cymdeithas y Beibl yn ymroddedig i sicrhau bod y Beibl yn cael ei glywed yng Nghymru. Yn awr,
dros 200 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn adnewyddu ac yn datblygu ein gweithgareddau yng Nghymru. "Mae Cymdeithas y Beibl wedi ymrwymo i ddod âr Beibl yn fyw. I alluogi pobl iw ddarllen ai ddeall, nid dim ond fel llyfr hanes ond fel llyfr syn berthnasol heddiw." Y Gwir Barchedig Barry Morgan, Archesgob Cymru Creu man cyfarfod rhyngom âr beibl – cyfieithu, dosbarthu, mynd ir afael â, ac ymgyrchu i roi llais i neges y Beibl yn fyd eang. Ewch i fwy o wybodaeth ![]() Gweledigaeth Cymdeithas y Beibl ai chynghrair byd eang Y WELEDIGAETHYNG NGHYMDEITHAS Y BEIBL YR YDYM YN FRWD DROS Y BEIBL. Dychmygwch fyd lle
YR HER Tra bod gan y Beibl swyddogaeth ganolog mewn rhai rhannau or byd, mewn mannau eraill prin y clywid ei neges o gwbl. Yn ein cymdeithas ni a chymdeithasau eraill yn y Gorllewin maer Beibl bron wedi diflannun llwyr o ganol realiti bywyd dyddiol pobl. Yng nghanol y fath wrthgyferbyniadau, yr ydym fel erioed yn cadw at ein hymrwymiad i roi Beiblau lle nad oes rhai ar hyn o bryd, ond at hyn yr ydym wedi ychwanegu gweithgareddau newydd i helpu pobl i ymwneud âr Ysgrythur. Er enghraifft, ymchwilio i sut y gellid dysgur Beibl mewn ysgolion neu weithio gydar Eglwys iw helpu hi i fyw stori Duw yn ei bywyd ai thystiolaeth bob dydd. A WNEWCH CHI EIN HELPU NI? GALLWCH CHI FOD YN RHAN ON CYNGHRAIR BYD-EANG MEWN AMRYWIOL FFYRDD Fe allwch roi eich arian, eich amser ach gweddi, neu fe allwch sôn wrth eraill am ein gwaith. Gydan gilydd fe allwn newid pethau – mewn cynghrair byd-eang – sydd yn hollol ymroddedig i wneud y Beibl yn glywadwy ym mhob man. |
||
| View the English language version of this page | ||